News Release

Face masks ‘make wearers look more attractive’, study suggests

Cardiff University research finds wearers of medical masks rated most attractive

Peer-Reviewed Publication

Cardiff University

Face masks.

Two words that have prompted furious debate during the COVID-19 pandemic.

The discussion just isn’t going away – and now Cardiff University experts have discovered a surprising new reason to mask up.

They have published new research which suggests protective face masks make wearers look more attractive.

Their study, published in the journal Cognitive Research: Principles and Implications, measured how different types of face masks changed the attractiveness of 40 male faces.

They discovered the type of covering matters – blue medical masks were found to increase facial attractiveness more than other types of masks.

Dr Michael Lewis, a Reader from Cardiff University’s School of Psychology and an expert in the psychology of faces, said: “Research carried out before the pandemic found medical face masks reduce attractiveness – so we wanted to test whether this had changed since face coverings became ubiquitous and understand whether the type of mask had any effect.

“Our study suggests faces are considered most attractive when covered by medical face masks. This may be because we’re used to healthcare workers wearing blue masks and now we associate these with people in caring or medical professions. At a time when we feel vulnerable, we may find the wearing of medical masks reassuring and so feel more positive towards the wearer.

“We also found faces are considered significantly more attractive when covered by cloth masks than when not covered. Some of this effect may be a result of being able to hide undesirable features in the lower part of the face – but this effect was present for both less attractive and more attractive people.”

In the study, 43 female participants rated the attractiveness of images of male faces without a mask; wearing a cloth mask; a blue medical face mask and holding a plain black book covering the area a face mask would hide, on a scale of one to 10.

The research was conducted in February 2021, seven months after face masks became mandatory in the UK.

“The results run counter to the pre-pandemic research* where it was thought masks made people think about disease and the person should be avoided,” said Dr Lewis.

“The current research shows the pandemic has changed our psychology in how we perceive the wearers of masks. When we see someone wearing a mask we no longer think ‘that person has a disease, I need to stay away’.

“This relates to evolutionary psychology and why we select the partners we do. Disease and evidence of disease can play a big role in mate selection – previously any cues to disease would be a big turn off. Now we can observe a shift in our psychology such that face masks are no longer acting as a contamination cue.”

Further work is being conducted with female and male participants to see if the results are true for both genders.

-Ends-

  • The research article, Beyond the beauty of occlusion: medical masks increase facial attractiveness more than other face coverings, is available online here
  • Dr Lewis is available for interview
  • *The pre-pandemic study referred to in the paper (carried out in April 2016 in Japan) can be found here

For further information and interview requests contact: 

  • Gerry Holt, comms & marketing, Cardiff University - 029 2087 5596 or Holtg2@cardiff.ac.uk

Cardiff University is recognised in independent government assessments as one of Britain’s leading teaching and research universities and is a member of the Russell Group of the UK’s most research-intensive universities. The 2014 Research Excellence Framework ranked the University 5th in the UK for research excellence. Among its academic staff are two Nobel Laureates, including the winner of the 2007 Nobel Prize for Medicine, Professor Sir Martin Evans. Founded by Royal Charter in 1883, today the University combines impressive modern facilities and a dynamic approach to teaching and research. The University’s breadth of expertise encompasses: the College of Arts, Humanities and Social Sciences; the College of Biomedical and Life Sciences; and the College of Physical Sciences and Engineering, along with a longstanding commitment to lifelong learning. Cardiff’s flagship Research Institutes are offering radical new approaches to pressing global problems. More at www.cardiff.ac.uk 

 

 

Datganiad i'r Wasg gan Brifysgol Caerdydd

I'w gyhoeddi ar unwaith

 

Astudiaeth yn awgrymu bod gwisgo masgiau wyneb yn ‘gwneud i bobl edrych yn fwy deniadol’

Ymchwil Prifysgol Caerdydd yn canfod fod pobl yn credu bod gwisgo masgiau meddygol yn gwneud pobl yn fwy deniadol

 

Masgiau wyneb.

Dau air sydd wedi ysgogi trafodaeth danllyd yn ystod pandemig COVID-19.

Dyw'r drafodaeth ddim ar ben - a nawr mae arbenigwyr Prifysgol Caerdydd wedi darganfod rheswm newydd annisgwyl dros wisgo masg.

Maen nhw wedi cyhoeddi ymchwil newydd sy'n awgrymu bod masgiau wyneb amddiffynnol yn gwneud i bobl edrych yn fwy deniadol.

Fe wnaeth eu hastudiaeth, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Cognitive Research: Principles and Implications, mesur pa effaith roedd gwahanol fathau o fasgiau wyneb yn cael ar ba mor atyniadol oedd 40 o wynebau gwrywaidd.

Darganfuwyd fod y math o orchudd yn gwneud gwahaniaeth – roedd masgiau meddygol glas yn gwneud i berson edrych yn fwy deniadol na masgiau eraill.

Dywedodd Dr Michael Lewis, Darllenydd o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd ac arbenigwr ym maes seicoleg wynebau: “Canfu ymchwil a gynhaliwyd cyn y pandemig fod masgiau wyneb meddygol yn gwneud i berson edrych yn llai atyniadol - felly roeddem am brofi i weld a oedd hyn wedi newid ers i orchuddion wyneb ddod yn rhywbeth arferol ac i ddeall a yw’r math o fasg yn cael unrhyw effaith.

"Mae ein hastudiaeth yn awgrymu bod wynebau'n cael eu hystyried fwyaf deniadol y tu ôl i fasgiau wyneb meddygol. Gall hyn fod oherwydd ein bod yn arfer gweld gweithwyr gofal iechyd yn gwisgo masgiau glas ac erbyn hyn rydym yn cysylltu'r rhain â phobl mewn proffesiynau gofalgar neu feddygol. Ar adeg pan fyddwn yn teimlo'n agored i niwed, efallai ein bod ni’n teimlo fod gweld rhywun yn gwisgo masgiau meddygol yn gysur ac felly ein bod yn teimlo'n fwy cadarnhaol tuag at y bobl sy’n eu gwisgo.

“Canfuom hefyd fod wynebau'n cael eu hystyried yn llawer mwy deniadol os oeddent wedi’u gorchuddio gan fygydau defnydd na phan nad oeddent wedi'u gorchuddio. Gall rhywfaint o'r effaith hon fod o ganlyniad i allu cuddio nodweddion annymunol yn rhan isaf yr wyneb – ond roedd yr effaith hon yn bresennol ar gyfer pobl llai deniadol a mwy deniadol.”

Yn yr astudiaeth, rhoddodd 43 o gyfranogwyr benywaidd eu barn am ba mor atyniadol oedd lluniau o wynebau gwrywaidd heb fasg; yn gwisgo mwgwd defnydd; mwgwd wyneb meddygol glas ac yn dal llyfr du plaen yn gorchuddio'r man lle byddai masg wyneb yn gorchuddio, ar raddfa o un i 10.

Cynhaliwyd yr ymchwil ym mis Chwefror 2021, saith mis ar ôl i fasgiau wyneb ddod yn orfodol yn y DU.

"Mae'r canlyniadau'n mynd yn groes i'r ymchwil cyn y pandemig* lle tybiwyd bod masgiau'n gwneud i bobl feddwl am glefyd a dylid osgoi'r person," meddai Dr Lewis.

"Mae'r ymchwil presennol yn dangos bod y pandemig wedi newid ein seicoleg o ran sut rydym yn gweld pobl sy’n gwisgo masgiau. Pan rydym yn gweld rhywun yn gwisgo masg, dydyn ni ddim bellach yn meddwl 'mae gan y person yna glefyd, mae angen i mi gadw draw’.

“Mae hyn yn ymwneud â seicoleg esblygol a pham rydym yn dewis y partneriaid rydym yn eu dewis. Gall clefydau a thystiolaeth o glefydau chwarae rhan fawr yn y broses o ddewis partneriaid – yn y gorffennol byddai unrhyw awgrym o glefydau wedi dylanwadu’n negyddol ar fwriad rhywun. Erbyn hyn, gallwn weld newid yn ein seicoleg lle nad yw masgiau wyneb bellach yn gwneud i ni feddwl am ledaenu haint.”

Mae gwaith pellach yn cael ei wneud gyda chyfranogwyr benywaidd a gwrywaidd i weld a yw'r canlyniadau'n wir am y ddau ryw.

-Diwedd-

  • Mae'r erthygl ymchwil, Beyond the beauty of occlusion: medical masks increase facial attractiveness more than other face coverings, ar gael ar-lein yma
  • Mae Dr Lewis ar gael ar gyfer cyfweliad
  • *Mae'r astudiaeth cyn y pandemig y cyfeirir ati yn y papur (a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2016 yn Japan) i'w gweld yma

I gael rhagor o wybodaeth a gofyn am gyfweliad, cysylltwch â:

  • Gerry Holt, Cyfathrebu a Marchnata, Prifysgol Caerdydd – 029 2087 5596 neu HoltG2@caerdydd.ac.uk

Mae asesiadau annibynnol y llywodraeth yn cydnabod Prifysgol Caerdydd yn un o brifysgolion blaenllaw Prydain o ran addysgu ac ymchwil. Mae’r Brifysgol hefyd yn aelod o Grŵp Russell, sy'n cynnwys prifysgolion y DU sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar waith ymchwil. Yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd y Brifysgol yn bumed yn y DU am safon ei hymchwil. Ymhlith ei staff academaidd mae dau enillydd Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel 2007 mewn Meddygaeth, yr Athro Syr Martin Evans. Sefydlwyd y Brifysgol yn sgîl Siarter Frenhinol ym 1883. Heddiw, mae'n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ag agwedd ddeinamig at addysgu ac ymchwil. Mae ehangder arbenigedd y Brifysgol yn cynnwys Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, ynghyd ag ymrwymiad hirdymor i ddysgu gydol oes. Mae sefydliadau ymchwil blaenllaw’r Brifysgol yn cynnig ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â phroblemau o bwys yn fyd-eang. Rhagor o wybodaeth: www.caerdydd.ac.uk


Disclaimer: AAAS and EurekAlert! are not responsible for the accuracy of news releases posted to EurekAlert! by contributing institutions or for the use of any information through the EurekAlert system.